Ymgynghoriad ar y Bil drafft Llywodraeth Leol (Cymru)

 

Ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad

 

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr awdur yn ogystal â’r ymateb, am fod hynny’n rhoi hygrededd i’r ymarfer ymgynghori.

 

Enw*: Huw Vaughan Thomas

Sefydliad: Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru

 

Ebost*: Huw.Thomas@archwilio.cymru

 

Rhif ffôn: 029 2032 0500

 

Cyfeiriad: 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ

 

 

 

 

* gwybodaeth anghenrheidiol

 

 

Cwestiynau Ymgynghori

 

Dylai'r cwestiynau hyn gael eu darllen ar y cyd â'r Bil Drafft, y Memorandwm Esboniadol Drafft a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol Drafft

 

RHAN 1

 

Cwestiwn 1.1: A oes gennych sylwadau am unrhyw un o'r darpariaethau yn Rhan 1 o'r Bil Drafft?

 

 

Yn gyffredinol, nid yw unrhyw rai o ganfyddiadau fy ngwaith o ran llywodraeth leol yn awgrymu bod unrhyw rai o’r darpariaethau arfaethedig yn afresymol neu’n anymarferol. Er hynny, yn yr un modd, ni allaf fynegi barn ynghylch a oes i unrhyw rai o’r patrymau arfaethedig ar gyfer llywodraeth leol unrhyw rinweddau neu anfanteision arbennig o gryf.

 

Gweler yr ymatebion i’r cwestiynau a ganlyn hefyd.

 

 

 

Cwestiwn 1.2: Beth yw eich barn ar yr opsiynau ar gyfer cael 2 neu 3 Sir yn y Gogledd, fel y nodwyd yn Atodlen 1 i’r Bil Drafft?

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1.3: Beth yw eich barn ar y patrwm arfaethedig ar gyfer ardaloedd Llywodraeth Leol yng Nghymru?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1.4: A oes angen i Weinidogion Cymru geisio unrhyw bwerau pellach i gefnogi'r gwaith o integreiddio Bwrdd Iechyd Powys a Chyngor Sir Powys?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1.5: Beth yw eich barn ar y weithdrefn ar gyfer enwi'r Siroedd newydd?

 

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1.6: Beth yw eich barn ar y newidiadau arfaethedig i amserlen etholiadau Llywodraeth Leol?

 

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1.7: A oes gennych unrhyw sylwadau cyffredinol am y darpariaethau yn adran 16 ac Atodlen 3 y Bil Drafft sy'n ymwneud â chyllid Llywodraeth Leol?

 

Mae’n ymddangos bod y darpariaethau sy’n ymwneud â chyllid llywodraeth leol yn rhesymol i sicrhau bod modd i’r strwythurau newydd weithredu. Nid ydynt yn newid y drefn gyffredinol bresennol o ran cyllid llywodraeth leol yn sylweddol, ac rwy’n nodi bod Llywodraeth Cymru’n bwriadu ymgynghori ar gynigion, gan gynnwys deddfwriaeth bellach, i fynd i’r afael â’r dulliau o ddosbarthu, codi, rheoli a chyfrifyddu cyllid llywodraeth leol. Rwy’n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at yr ymgynghoriad.

 

 

 

 

Cwestiwn 1.8: Sut y gallai Llywodraeth Cymru fesur y nifer sy'n osgoi talu Ardrethi Annomestig ar hyn o bryd?

 

Un opsiwn fyddai cyflawni neu gomisiynu ymchwil sy’n cymharu (ar sail sampl) statws Ardrethi Annomestig ag arwyddion o weithgarwch, fel defnyddio gwasanaethau casglu gwastraff yr awdurdodau, neu yn erbyn cofnodion Tŷ’r Cwmnïau o gwmnïau nad ydynt yn segur.

 

 

 

Cwestiwn 1.9: A oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynghylch sut y gallai deddfwriaeth yn y dyfodol helpu i leihau'r nifer sy'n osgoi talu Ardrethi Annomestig?

 

Mae’n ymddangos yn synhwyrol gwneud darpariaeth sy’n peri iddi fod yn ofynnol i’r rheini sy’n talu Ardrethi Annomestig roi gwybod i’r awdurdodau pan fydd eu hamgylchiadau’n newid. Gall hefyd fod yn werth ystyried darpariaeth a fydd yn rhoi hawl i awdurdodau gael mynediad i safleoedd i chwilio am dystiolaeth o weithgarwch, yn enwedig drwy ddarllen mesuryddion cyfleustodau. Yn yr un modd, gall fod yn ddefnyddiol ystyried egluro pa sefydliadau sy’n gymwys i gael eithriadau elusennol a/neu ddarparu ar gyfer gwirio eithriadau o’r fath.

 

 

 

Cwestiwn 1.10: Ym mha ffyrdd eraill y gallai Llywodraeth Cymru alluogi Llywodraeth Leol i leihau'r nifer sy'n osgoi talu ac sy'n twyllo'r system Ardrethu Annomestig?

 

Efallai y bydd Llywodraeth Cymru am drafod ei hamcanion o ran Ardrethi Annomestig a materion eraill sy’n gysylltiedig â chyllid llywodraeth leol gyda mi mewn mwy o fanylder er mwyn imi ystyried sut y byddai modd ehangu’r Fenter Twyll Genedlaethol, er enghraifft, i gynnwys gwiriadau amser real o’r hawl i esemptio eiddo rhag talu ardrethi busnes.

 

 

 

Cwestiwn 1.11: A ydych chi'n cytuno y dylid diddymu'r siroedd wedi eu cadw a gwneud diwygiadau canlyniadol er mwyn penodi arglwydd raglawiaid ac uchel siryfion mewn perthynas â'r siroedd fydd yn bodoli ar ôl 1 Ebrill 2020?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1.12: A oes materion eraill o natur dechnegol y dylid hefyd eu hystyried?

 

 

 

 

 

 

 

 

 

RHAN 2

 

Cwestiwn 1.1: A oes gennych sylwadau am unrhyw un o'r darpariaethau yn Rhan 2 o'r Bil Drafft?

 

Ar y cyfan, rwy’n credu bod y darpariaethau’n briodol. Rwy’n nodi bod rhywfaint o ddryswch mewn o leiaf un awdurdod yng Nghymru ynghylch a yw’r cymhwysedd a ddarperir gan Ddeddf Lleoliaeth 2010 yn berthnasol. Dylai’r ddarpariaeth yn neddfwriaeth Cymru helpu i atal dryswch o’r fath yn y dyfodol.

 

Gweler 2.2 isod hefyd.

 

 

 

Cwestiwn 2.2: A oes gennych unrhyw sylwadau am ein cynigion sy'n ymwneud â Chynghorau Cymuned â chymhwysedd?

 

O ran darpariaeth y Bil drafft i ddefnyddio barn archwilydd i bennu cymhwysedd cynghorau cymuned (adran 31), er bod barn o’r fath yn berthnasol  i allu cyrff o ran llywodraethu a rheolaeth ariannol, dylwn nodi nad yw gwaith archwilio wedi’i gynllunio i roi sicrwydd ynghylch a yw cyngor yn bodloni gofynion cymhwysedd. Nid yw’r darpariaethau archwilio presennol yn adran 17 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn peri iddi fod yn ofynnol i archwiliadau roi sylw i gymhwysedd cyffredinol. Os bwriedir i’r trefniadau archwilio fod yn hollol briodol i bennu a oes gan gyngor gymhwysedd, bydd angen diwygio cwmpas gwaith archwilio. Mewn llawer o achosion, os nad y rhan fwyaf ohonynt, bydd hyn yn peri i ffioedd archwilio cynghorau cymuned gynyddu (neu bydd angen eu hariannu drwy fodd arall). Yn hytrach na pheri i hwn fod yn ofyniad cyffredinol ar gyfer pob archwiliad, gallai fod yn fwy effeithiol o ran cost pe bai darpariaeth yn cael ei gwneud i beri iddi fod yn ofynnol i gynghorau cymuned gael gafael ar adroddiadau penodol ynghylch eu ffitrwydd o ran y gofynion cymhwysedd. Byddai modd darparu adroddiadau o’r fath ar sail cytundeb o dan adran 19 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

Rwy’n nodi bod adran 35 o’r Bil drafft yn peri iddi fod yn ofynnol i gynghorau cymuned roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y modd y dylid arfer y swyddogaethau o ran y pŵer cymhwysedd cyffredinol. Rwy’n credu bod hyn yn briodol a byddwn yn ychwanegu fy mod yn credu y bydd canllawiau o’r fath yn bwysig iawn, oherwydd nad yw cynghorau cymuned yn debygol o fod yn gyfarwydd â chydnabod y terfynau cymhwysedd a bennir, er enghraifft, gan reolau Cymorth Gwladol Ewrop.

 

 

 

 

RHAN 3

 

Cwestiwn 3.1: A oes gennych sylwadau am unrhyw un o'r darpariaethau yn Rhan 3 o'r Bil Drafft?

 

Yn gyffredinol, rwy’n croesawu’r cynigion yn Rhan 3 i annog cyfranogiad y cyhoedd. Mae llawer o’r gofynion yn gyson ag egwyddorion llywodraethu da a gallent helpu i gyfrannu at fframwaith i asesu cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd ‘llywodraethu da’.

Rwy’n croesawu’n enwedig y ddyletswydd i gyhoeddi canllaw i’r cyfansoddiad i hwyluso tryloywder a llywodraethu da.

Serch hynny, rwy’n credu y gallai’r darpariaethau ar gyfer ceisiadau gwella (Pennod 4 o Ran 3) arwain at weithdrefnau a allai fod yn feichus o safbwynt gweinyddol. I’r perwyl hwnnw, gallai fod yn ddefnyddiol pe bai Llywodraeth Cymru’n ystyried dull o leihau beichiau o’r fath, er enghraifft, drwy nodi mewn canllawiau ystod realistig o enghreifftiau o seiliau rhesymol dros wrthod ceisiadau.

Rwy’n pryderu rywfaint hefyd na fydd gwaith pwyllgorau ardaloedd cymunedol a chynghorau cymuned, o bosibl, yn cael ei gydgysylltu a’i resymoli. Tybed a fyddai’n werth pwyso a mesur y posibilrwydd o sefydlu pwyllgorau ardaloedd cymunedol yn lle cynghorau cymuned (lle bo cynghorau o’r fath ar gael) os mai hwnnw yw’r opsiwn a ffefrir yn lleol. Byddai angen cydblethu unrhyw bosibilrwydd o’r fath ag unrhyw adolygiad o’r cynghorau cymuned.

 

 

 

Cwestiwn 3.2: A oes gennych unrhyw sylwadau am y ddyletswydd arfaethedig ynghylch cyfranogiad y cyhoedd a'r gofyniad i ymgynghori ar y gyllideb flynyddol?

 

 

Fel y nodir uchod

 

 

 

 

 

Cwestiwn 3.3: Sut y dylid ceisio a dewis cynrychiolwyr cymunedol i fod ar bwyllgorau ardaloedd cymunedol?

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 3.4: A ydych chi'n cytuno y dylai Cynghorau Sir allu dirprwyo swyddogaethau i bwyllgor ardal gymunedol? Os ydych, a oes unrhyw swyddogaethau y dylid neu na ddylid eu dirprwyo?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 3.5: A oes gennych unrhyw farn ynghylch a oes angen rhoi trefniadau trosiannol ar waith ar gyfer pwyllgorau ardaloedd presennol, neu a yw cyfnod arweiniol da yn ddigonol?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 3.6: A oes gennych unrhyw sylwadau am y darpariaethau diwygiedig ar gyfer 'ceisiadau ar gyfer gwella' neu ar y rhyngweithio rhwng y darpariaethau hyn a'r rheini sy'n ymwneud â'r ddyletswydd cyfranogiad y cyhoedd (Rhan 3, Pennod 2) a phwyllgorau ardaloedd cymunedol (Rhan 3, Pennod 3)? 

 

Mae adran 67(1) yn datgan bod rhaid cytuno i gais gwella oni bai fod seiliau rhesymol dros wrthod y cais (neu fod cais o’r fath wedi’i wneud yn ystod y ddwy flynedd flaenorol). A fyddai tystiolaeth o fandad democrataidd i beidio ag ildio i gais (e.e. ymrwymiad ym maniffesto plaid fwyafrifol i roi polisi ar waith sy’n mynd yn groes i’r cais) yn “sail resymol”?

 

Rwy’n rhagweld bod perygl y gallai’r broses o ymdrin â cheisiadau gwella fod yn feichus o safbwynt gweinyddol. Efallai y bydd Llywodraeth Cymru am ystyried sut i gyflwyno mesurau i ddiogelu’r awdurdodau rhag y perygl hwnnw.

 

 

 

Cwestiwn 3.7: A oes gennych sylwadau am unrhyw un o'n cynigion pellach sy'n ymwneud â mynediad i gyfarfodydd?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 3.8: A oes gennych unrhyw sylwadau am ein cynigion i wella cyfranogiad gan blant a phobl ifanc trwy'r ddyletswydd cyfranogiad y cyhoedd?

 

 

 

 

 

 

 

 

RHAN 4

 

Cwestiwn 4.1: A oes gennych sylwadau am unrhyw un o'r darpariaethau yn Rhan 4 o'r Bil Drafft?

 

Yn gyffredinol, rwy’n croesawu’r darpariaethau i wella atebolrwydd aelodau etholedig a phrif swyddogion. Ar y cyfan, mae’n ymddangos bod darpariaethau Rhan 4 yn rhesymol.

 

Mae’n ymddangos bod darpariaethau Pennod 2 o Ran 4 yn gydnaws â’r nod o sicrhau mwy o gysondeb o ran ymatebolrwydd aelodau unigol i’w hetholwyr, a chan fod yr awdurdodau yn cael eu llywodraethu gan eu haelodau at ei gilydd, dylai sicrhau bod yr etholwyr yn fwy gwybodus a’u bod fel arall yn ymgysylltu â’r awdurdodau. Rwy’n credu, fodd bynnag, y gall fod angen gofal wrth roi’r gofyniad i gwblhau hyfforddiant gorfodol (a85) ar waith. Byddai’n anffodus pe bai’r gofyniad hwn yn cael ei roi ar waith mewn modd llawdrwm a fyddai’n atal aelodau o’r cyhoedd rhag sefyll i gael eu hethol. Gallai hynny leihau ymgysylltiad â democratiaeth.

 

 

 

 

Cwestiwn 4.2: A oes gennych unrhyw sylwadau am y ddyletswydd arfaethedig ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol neu ar rolau monitro ac adrodd y Pwyllgor Safonau?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 4.3: A oes gennych unrhyw sylwadau am ein cynigion sy'n ymwneud ag Awdurdodau Lleol yn dirprwyo swyddogaethau?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 4.4: A oes gennych unrhyw sylwadau am ein cynnig i roi pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i ystyried canllawiau wrth adolygu'r fframwaith cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer Cynghorwyr?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 4.5: A ydych chi'n cytuno y dylai'r darpariaethau sy'n ymwneud â mynychu cyfarfodydd o bell ym Mesur 2011 fod yn fwy hyblyg?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 4.6: A oes gennych unrhyw sylwadau am ein cynnig y dylai fod yn ofynnol i Awdurdodau Cysgodol benodi Swyddogion Canlyniadau dros dro?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 4.7: A oes gennych unrhyw sylwadau am fuddioldeb rhoi'r pŵer i Gynghorau ddiswyddo'r Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Cyllid, y Swyddog Monitro a'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd trwy bleidlais?

 

Fel y mae Llywodraeth Cymru’n nodi yn ei dogfen ymgynghori, os caiff darpariaeth o’r fath ei chyflwyno, bydd angen ystyried yn ofalus. Yn benodol, bydd angen i awdurdodau fynd ati’n ofalus i sicrhau na fyddant yn wynebu hawliadau am ddiswyddo annheg neu i sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i’w hamddiffyn eu hunain rhag hawliadau o’r fath. Fodd bynnag, mae i’r cynnig i ddileu’r gofyniad i gael adroddiad gan berson annibynnol rinweddau gan fod adroddiadau o’r fath yn gallu bod yn gostus, yn enwedig pan ofynnir i Gwnsler y Frenhines eu paratoi.

 

 

 

Cwestiwn 4.8: A oes gennych unrhyw sylwadau am ein cynigion i newid y fframwaith a ddefnyddi gan Gynghorau a'u Gweithrediaeth i benderfynu sut i  ddyrannu eu swyddogaethau?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 4.9: A oes gennych unrhyw sylwadau am ein cynigion mewn perthynas â gwaredu a throsglwyddo asedau Awdurdodau Lleol?

 

 

 

 

 

 

 

 

RHAN 5

 

Cwestiwn 5.1: A oes gennych sylwadau am unrhyw un o'r darpariaethau yn Rhan 5 o'r Bil Drafft?

 

Cynllun Corfforaethol

Er bod y Bil drafft yn cydnabod y dylid cynnwys yr amcanion llesiant yn y cynllun corfforaethol, mae’r “datganiad o flaenoriaethau”, fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, yn awgrymu bod yr amcanion hyn yn ofyniad ychwanegol ar wahân. Os bwriedir i’r amcanion llesiant fod yn rhan ganolog o flaenoriaethau’r cyngor, mae angen diwygio’r adran hon i sicrhau bod hynny’n glir.

 

Nifer fawr o asesiadau ac adolygiadau

Mae Rhan 5 yn arwain at nifer fawr o ofynion asesu ac adolygu:

a)       hunanasesiadau o dan adran 116;

b)     asesiadau gan gymheiriaid o dan adran 118;

c)     asesiadau cyfun o dan adran 124;

ch)   adolygiadau llywodraethu a drefnir gan Lywodraeth Cymru o dan adran 128.

 

Gyda’i gilydd, mae’r gofynion ar gyfer asesiadau ac adolygiadau o faterion llywodraethu’n pentyrru.

 

 

Asesiadau Cyfun

Nid yw’r cwestiynau ymgynghori hyn yn cwmpasu’r cynnig ar gyfer Asesiadau Cyfun. Nid yw hyn yn annog yr holl ymatebwyr i roi sylw penodol i’r mater hwn.

 

Fel y mae’r ddarpariaeth wedi’i drafftio ar hyn o bryd, mae’n ofynnol cynnal Asesiadau Cyfun i asesu cydymffurfiaeth â’r dyletswyddau o dan adran 111. Fodd bynnag, gallai cyflawni asesiad o’r fath ar y cyd, ac adrodd arno ar y cyd, fod yn gymhleth heb fod angen, o ystyried swyddogaethau neilltuol anorfod ac annibyniaeth y cyrff o dan sylw. Byddai’r broses o gael sawl parti, tu mewn i’r cynghorau a’r cyrff archwilio, arolygu a rheoleiddio, i gadarnhau adroddiadau a chytuno arnynt yn derfynol, o reidrwydd yn faith. O gofio bod pwyso a mesur trefniadau llywodraethu yn rhan ganolog o swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol, mae’n ymddangos y byddai’n fwy effeithlon peri iddi fod yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol asesu’r modd y mae’r ddyletswydd i wneud trefniadau ‘llywodraethu da’ yn cael ei chyflawni, gan beri iddi fod yn ofynnol i’r ‘rheoleiddwyr perthnasol’ ddarparu gwybodaeth berthnasol a pheri iddi fod yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol roi sylw i wybodaeth o’r fath. Byddai’r pŵer i gyflawni asesiad o’r fath mor aml ag y gwelaf yn dda hefyd yn cydweddu â’m dyletswydd o dan adran 17 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 i’m sicrhau fy hunan fod trefniadau priodol ar waith i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Rwy’n fodlon trafod y mater hwn ymhellach.

 

Mae’r broses a ddisgrifir yn y Memorandwm Esboniadol yn mynd ymhellach nag asesu cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd ‘llywodraethu da’. Drwy rannu gwybodaeth am ein gwaith, gallwn bennu risgiau rhag llywodraethu da, i’r graddau y mae’r meysydd ymchwilio a’r canfyddiadau’n caniatáu hynny. Nid yw hyn yr un fath â rhoi asesiad (gan gynnwys safbwynt/barn yn ôl pob tebyg) o gydymffurfiaeth corff â’r dyletswyddau statudol.

 

Mae’r broses a ddisgrifir yn y Memorandwm Esboniadol yn fwy addas ar gyfer dyletswydd i rannu gwybodaeth wrth arfer swyddogaethau’r gwahanol gyrff archwilio, arolygu a rheoleiddio nag ydyw ar gyfer dyletswydd i adrodd ar y cyd. Rwyf wedi amlinellu rhai o’r cymhlethdodau a allai godi o ran adrodd ar y cyd uchod.

 

Mae angen i unrhyw ofynion sy’n ymwneud ag asesu’r modd y mae trefniadau llywodraethu’n cael eu gwneud fod yn gydlynol ac ychwanegu gwerth at y drefn gyfan. Yn fy ymateb ynghylch asesiadau gan gymheiriaid isod, rwy’n cyfeirio at yr angen i ystyried cydlyniaeth.

 

Adolygiadau llywodraethu Llywodraeth Cymru

I hwyluso cydgysylltiad a chydlyniaeth, byddai’n ddefnyddiol pe bai’r trefniadau ymgynghori’n cynnwys ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Cyfundrefn enwi ddryslyd

Mae adran 123 yn diffinio’r Archwilydd Cyffredinol fel “rheoleiddiwr perthnasol” a swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol o ran llywodraeth leol fel “swyddogaethau perthnasol”. (Y “rheoleiddwyr perthnasol” eraill a ddiffinnir gan yr adran yw Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) a Gweinidogion Cymru pan fyddant yn arfer eu swyddogaethau i arolygu gwasanaethau cymdeithasol (AGGCC).) Mae’n gamarweiniol labelu’r Archwilydd Cyffredinol fel “rheoleiddiwr” oherwydd nad rheoleiddio yw archwilio. Mae hyn yn arwain at ddryswch o ran swyddogaethau ac annibyniaeth yr Archwilydd Cyffredinol. Rwy’n credu y byddai modd mynd i’r afael â hyn yn rhwydd drwy wneud mân newid i’r gyfundrefn enwi, er enghraifft, drwy ddefnyddio’r term “corff adolygu perthnasol”.

 

Gwrthdaro ag annibyniaeth yr archwilydd

Nid yw sawl agwedd ar Ran 5 yn cydweddu ag annibyniaeth yr archwilydd, sef un o egwyddorion sylfaenol archwilio sy’n hollbwysig i hygrededd cyffredinol yr adroddiadau am y modd y mae adnoddau cyhoeddus yn cael eu gwarchod, ar lefel llywodraeth leol ac ar lefel Llywodraeth Cymru. Mae’r broblem fwyaf yn codi yn adran 143 sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i gydlynu gwaith yr Archwilydd Cyffredinol â gwaith Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) a gwaith Gweinidogion Cymru o ran eu swyddogaethau i arolygu gwasanaethau cymdeithasol (AGGCC). Drwy ddefnyddio’r pwerau hyn, mae’n debyg y bydd modd i Weinidogion Cymru bennu’r amserlenni ar gyfer cyflawni gwaith archwilio a mynnu bod gwybodaeth yn cael ei rhannu.

 

Mae’r darpariaethau hyn i wneud rheoliadau’n mynd yn groes i adran 8(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n dweud yr hyn a ganlyn:

 

“Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol ddisgresiwn llwyr o ran y modd y mae swyddogaethau’r swydd honno i gael eu harfer ac nid yw’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth y Cynulliad Cenedlaethol na Llywodraeth Cymru.”

 

Felly, drwy ddefnyddio’r ddarpariaeth i wneud rheoliadau, mae’n ymddangos i bob pwrpas y bydd modd i Weinidogion Cymru ddiwygio adran 8(1) o Ddeddf 2013. Hyd y deallwn ni, mae paragraffau 2 i 4 o Ran II o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn diogelu adran 8(1) o Ddeddf 2013 rhag iddi gael ei diwygio gan y Cynulliad. Yn benodol, mae’n ymddangos i mi y dylid cyfyngu’r pwerau i wneud rheoliadau i oruchwylio’r modd y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn cyflawni ei swyddogaethau, sef materion y mae’n briodol i Swyddfa Archwilio Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol ymgymryd â nhw, yn hytrach na Gweinidogion Cymru, ac na fyddai unrhyw reoliadau sy’n awgrymu eu bod yn peryglu disgresiwn yr Archwilydd Cyffredinol yn ddilys. (Rwyf wrthi’n cael cyngor annibynnol ar y pwynt hwn a byddwn yn fodlon rhoi gwybod ichi am y canlyniad pan fydd wedi dod i law.) Hyd yn oed os nad yw’r dadansoddiad hwn yn gywir (a, pha un bynnag, mae posibilrwydd y gallai arwain at gryn ddryswch a chost), a bod rheoliadau o’r fath yn ddilys, byddai’n peryglu annibyniaeth yr archwilydd.

Rwy’n deall mai’r bwriad o bosibl oedd i’r ddarpariaeth ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i helpu i gyflawni rhan gyntaf yr adran, sef y dylai Estyn, AGGCC a’r Archwilydd Cyffredinol roi sylw i’r angen i gydlynu’u gwaith. Mae’r rhan gyntaf honno o’r adran yn rhesymol, ond nid yw’r ddarpariaeth ar gyfer rheoliadau’n briodol. Ar wahân i’r ffaith y byddai’n niweidio annibyniaeth yr archwilydd a, thrwy hynny, hygrededd ariannol y cyrff archwilio (gan gynnwys y Gweinidogion), nid yw’r ddarpariaeth ar gyfer rheoliadau’n angenrheidiol gan fod camau eisoes yn cael eu cymryd i gydlynu gwaith drwy gyfrwng grŵp cydlynu gwirfoddol Arolygu Cymru.

Mae problem debyg yn codi yn adran 132 sy’n rhoi rheidrwydd ar yr Archwilydd Cyffredinol, ynghyd ag Estyn ac eraill, i ddarparu i “adolygwyr” a benodir gan Lywodraeth Cymru (o dan adran 128) “ba bynnag gyfleusterau a chymorth” sydd eu hangen ar yr adolygwyr. Mae perygl y bydd y rhwymedigaethau o dan adran 132 yn dargyfeirio adnoddau oddi wrth waith archwilio annibynnol.

Os yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu ei threfniadau ei hun i adolygu trefniadau llywodraethu llywodraeth leol, rwy’n deall y bydd am sicrhau bod y trefniadau hynny’n cydlynu â gwaith cyrff adolygu eraill, fel yr Archwilydd Cyffredinol, a sicrhau nad ydynt yn arwain at ddyblygu diangen. Fodd bynnag, mae’n ymddangos yn fwy priodol ceisio cydlynu’r gwaith drwy ddefnyddio trefniadau presennol Arolygu Cymru (heb unrhyw gost ychwanegol sylweddol) yn hytrach na darparu ar gyfer hawlio adnoddau annibynnol y mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi pleidleisio i’w darparu at ddibenion eraill.

Mae cynnwys yr Archwilydd Cyffredinol mewn dyletswydd yn adran 144 i roi sylw i ganllawiau Gweinidogion Cymru o ran swyddogaethau o dan Ran 5 hefyd yn mynd yn groes i annibyniaeth gyffredinol yr archwilydd.

 

 

 

 

Cwestiwn 5.2: A oes gennych unrhyw sylwadau am ein cynnig i'w gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ymgymryd â dyletswydd trefniadau llywodraethu?

 

Rwy’n croesawu’r bwriad i ddisodli’r ddyletswydd i wneud trefniadau gwella o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 drwy gyflwyno’r ddyletswydd arfaethedig i wneud trefniadau llywodraethu da. Yn fy marn i, roedd llawer o’r cynghorau’n ystyried y ddyletswydd gwella fel baich ychwanegol yn hytrach na rhan annatod o’u gwaith. Dylai’r ddyletswydd arfaethedig newydd o ran ‘llywodraethu da’ dreiddio’n ddyfnach i wraidd yr hyn sy’n sicrhau bod sefydliadau’n llwyddo i gyflawni’u blaenoriaethau, a dylai annog cynghorau i bwyso a mesur eu holl drefniadau mewn ffordd gritigol, a gwella tryloywder a democratiaeth ar yr un pryd.

Rwyf hefyd yn croesawu’r ffocws ar ddarbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd a’r modd y mae hyn yn cydweddu â’m dyletswyddau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 i’m sicrhau fy hunan bod trefniadau priodol ar waith i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

Hyd y deallaf i, y rheswm dros beidio â chymhwyso’r ddyletswydd hon i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a’r Awdurdodau Tân ac Achub, a pharhau â’r trefniadau presennol, yw bod Llywodraeth Cymru’n rhoi mwy o ystyriaeth i’r trefniadau priodol ar gyfer y cyrff hynny, yn hytrach na’i bod yn bwriadu cadw’r trefniadau presennol yn y tymor hir. Yn fy marn i, nid cadw’r trefniadau presennol yw’r dewis gorau o ran darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

 

 

 

Cwestiwn 5.3: A oes gennych unrhyw sylwadau am y dull gweithredu enghreifftiol tuag at asesiad gan gymheiriaid a nodir yn Atodiad A?

 

Yn hytrach na’u dyblygu, dylai unrhyw asesiadau arfaethedig gan gymheiriaid ychwanegu gwerth at yr asesiadau arfaethedig eraill o’r modd y mae’r ddyletswydd ‘llywodraethu da’ yn cael ei chyflawni (h.y. hunanasesiadau, yr Asesiadau Cyfun arfaethedig, ac adolygiadau llywodraethu Llywodraeth Cymru).

 

At hynny, bydd fy asesiadau innau o’r trefniadau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ynghyd â’m hasesiadau o’r graddau y mae’r cyrff wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth bennu amcanion llesiant a mynd ati i’w cyflawni, hefyd yn pwyso a mesur trefniadau llywodraethu.

 

Rhaid gofalu bod y drefn sy’n cael ei chreu yn gydlynol, yn lleihau dyblygu ac yn arwain at welliant. O roi gormod o bwyslais ar ddiagnosis yn hytrach na gwella, bydd yn arwain at weithgarwch diwerth. Gall fod yn fwy buddiol defnyddio cymheiriaid i gefnogi gwelliant pan fydd materion wedi’u pennu gan eraill sy’n cyfrannu at ‘y system’.

 

Mae perygl y gallai gallu eang y Gweinidogion i wneud rheoliadau ynghylch cyflawni hunanasesiadau ac asesiadau gan gymheiriaid wanhau grym y cynghorau i gyflawni gwelliant a ddylai fod yn cael ei arwain gan y sector. Os oes angen darpariaeth i wneud rheoliadau, mae’n ymddangos yn fwy priodol darparu i’r Gweinidogion wneud rheoliadau ynghylch cyflawni asesiadau dim ond pan fo seiliau rhesymol dros gredu nad yw asesiadau wedi’u cyflawni neu nad ydynt wedi’u cyflawni’n ddigonol.

 

Gyda golwg ar y dull gweithredu enghreifftiol o ran asesiadau gan gymheiriaid, rwy’n credu bod y gronfa o gymheiriaid posibl sy’n bodloni’r gofynion a nodir yn yr atodiad yn fach iawn ar hyn o bryd. Bydd angen gwneud cryn ymdrech i ddatblygu cronfa o’r fath ac i adeiladu capasiti yn y sector, yn ogystal â sicrhau ansawdd adolygwyr posibl.

Mae’r enghraifft yn dweud y bydd proses yr asesiadau gan gymheiriaid yn cymryd nifer o fisoedd ac ymgysylltu parhaus. Yna, mae’n cyfeirio ati fel ‘proses fer a chyflym’. Mae’n ymddangos bod y ddau ddatganiad yn gwrth-ddweud ei gilydd. Nid wyf ychwaith yn credu bod y broses a ddisgrifir yn realistig o ran pa mor gyflym y bwriedir ei chyflawni. I sicrhau bod y dystiolaeth yn gadarn a bod ansawdd y canfyddiadau’n cael ei gadarnhau’n ddigonol, gall fod angen dull mwy pwyllog.

 

 

Cwestiwn 5.4: A oes gennych unrhyw sylwadau am rôl arfaethedig y Pwyllgorau Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio mewn perthynas ag ymateb yr Awdurdod Lleol i'r hunanasesiad, yr asesiad gan gymheiriaid, yr asesiad cyfun a'r adolygiad llywodraethu?

 

Mae’r gofyniad am i Bwyllgorau Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio ystyried yr asesiadau llywodraethu, ac ymateb y cyngor iddynt, yn atgyfnerthu cylch gwaith presennol y Pwyllgorau Archwilio o dan y rheoliadau presennol, ac yn rhoi mwy o gyfeiriad iddo, ac felly mae’n ddefnyddiol. O’m profiad i, mae’r Pwyllgorau Archwilio’n cael hyn yn anodd ar hyn o bryd ac, os bydd canllawiau digonol ar gael i ategu’r gofyniad, dylai helpu i wella’r her fewnol.

 

 

 

Cwestiwn 5.5: A oes gennych unrhyw sylwadau am ein cynnig i wrthod pwyllgorau cyfrifon cyhoeddus lleol?

 

Rwy’n cydnabod y ddadl na fydd pwyllgorau cyfrifon cyhoeddus lleol gyda’u hadnoddau eu hunain o bosibl yn ychwanegu digon o werth i gyfiawnhau’r gost o’u sefydlu. Mae’n ymddangos bod perygl y byddant yn dyblygu gwaith pwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol. Fodd bynnag, byddwn yn nodi bod cryn werth mewn edrych yn ôl ar yr hyn a wnaed a’r ffordd y cafodd arian ei wario, a hynny, ymhlith pethau eraill, fel ffordd o lywio dewisiadau polisi yn y dyfodol a allai arwain at fwy o effeithiolrwydd o ran cost a gwell canlyniadau.

 

 

 

Cwestiwn 5.6: Ai cyrff gwasanaethau cyhoeddus yw'r cyrff cywir i archwilio'r dewisiadau o ran polisi sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus lleol?

 

Mae gennyf rywfaint o amheuaeth ai’r Byrddau Gwasanaeth Lleol yw’r cyrff cywir i archwilio’r dewisiadau polisi sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus lleol oherwydd nad ydynt yn cael eu hethol yn ddemocrataidd i wneud hynny. Nid yw’r cwestiwn ymgynghori’n egluro ai ystyr “archwilio” yw craffu ar ddewisiadau polisi neu benderfynu arnynt.

 

 

Cwestiwn 5.7: Os felly, a fydd pwerau cyfreithiol ychwanegol o fudd iddynt?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 5.8: Pa fesurau deddfwriaethol allai gael eu hystyried i ganiatáu i Llywodraeth Leol ymgymryd â rôl cydwasanaethau ar draws y sector cyhoeddus?

 

 

 

 

 

 

RHAN 6

 

Cwestiwn 6.1: A oes gennych sylwadau am unrhyw un o'r darpariaethau yn Rhan 6 o'r Bil Drafft?

 

Yn gyffredinol, nid yw’n ymddangos bod y cynigion yn afresymol, ond gall rhai problemau godi wrth fynd ati i’w rhoi ar waith.

 

Fel y nodir yn y ddogfen ymgynghori, rwyf innau (neu mewn rhai achosion, archwilwyr penodedig) wedi paratoi adroddiadau dros y blynyddoedd diwethaf sy’n tynnu sylw at yr angen i wella rheolaeth ariannol a llywodraethu ar draws y sector. I wella gallu’r sector, mae’n ymddangos bod angen creu cynghorau cymuned mwy ar y cyfan, gan mai wrth archwilio’r cynghorau llai yr ydym wedi dod ar draws y problemau mwyaf. Gall cynghorau mwy gynnig mwy o dâl i ddenu staff amser llawn a chymwysedig. Hefyd, ceir llawer o gymunedau heb gynghorau cymuned. Felly, byddai’n briodol cynnal adolygiad o’r sector sy’n cwmpasu pob cymuned.

 

Gweler isod hefyd.

 

 

 

Cwestiwn 6.2: A ddylai fod yn ofynnol i'r Comisiwn Ffiniau gyflwyno'i adroddiadau drafft i Awdurdodau Cysgodol o fis Mai 2019 ymlaen?

 

Mae’n ymddangos bod hyn yn briodol. Os bwriedir grwpio cymunedau, mae’n ymddangos yn synhwyrol i’r grwpiau gael eu hystyried ar draws y siroedd newydd yn hytrach na dim ond ar draws y siroedd presennol.

 

 

 

Cwestiwn 6.3: A ddylai'r Cynghorau Sir newydd roi ar waith argymhellion y Comisiwn Ffiniau neu a ddylai hyn fod yn gyfrifoldeb i'r Comisiwn Ffiniau ei hun?

 

Mae’n ymddangos yn synhwyrol rhannu’r baich o roi’r argymhellion ar waith ynghylch niferoedd sylweddol o gynghorau cymuned. Ymhellach, mae’r siroedd eisoes yn darparu gwasanaeth gweinyddol i’r cynghorau cymuned ar gyfer etholiadau ac ati. Mae amheuaeth a oes gan y Comisiwn Ffiniau gapasiti i gyflawni’r gwaith hwn ei hunan ac eithrio dros gyfnod estynedig.

 

 

 

Cwestiwn 6.4: A oes gennych unrhyw sylwadau am ein cynigion sy'n ymwneud â hyfforddiant gorfodol ar gyfer Cynghorwyr Cymuned?

 

Yn aml, mae cynghorwyr cymuned yn dangos diffyg dealltwriaeth o’u cyfrifoldebau (gweler, er enghraifft, yr adroddiad er budd y cyhoedd am Gyngor Cymuned Mawr, Ionawr 2015), yn enwedig o ran y fframwaith cyfreithiol gweddol gymhleth, cyllid a llywodraethu. Yn aml, maent o’r farn mai “cyfrifoldeb y clerc yw hynny”. Felly, mae’n ymddangos bod hyfforddiant yn syniad da.

Rwy’n cefnogi’r cynnig a nodir yn y ddogfen ymgynghori (ond nid yn y Bil drafft) y dylai fod yn ofynnol i gynghorau cymuned ystyried anghenion hyfforddiant eu haelodau a’u cyflogeion a chynllunio ar eu cyfer. Rwy’n credu ei bod yn bwysig bod cynghorau cymuned yn ysgwyddo perchnogaeth dros eu hanghenion hyfforddiant oherwydd dylai hynny wella a chynnal eu gallu annibynnol a’i gwneud yn fwy tebygol y bydd yr aelodau’n cyflawni hyfforddiant. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rwy’n amau a yw llawer o’r cynghorau mewn sefyllfa dda i bennu eu hanghenion a’u bylchau hyfforddiant, felly rwy’n credu y gall fod gan gynghorau sir rôl, y darperir ar ei chyfer yn adran 167, o ran ystyried anghenion hyfforddiant cynghorwyr cymuned. Ymhellach, dylai canllawiau Llywodraeth Cymru, y darperir ar eu cyfer gan adran 167(2), helpu i sicrhau bod safonau cyson ar waith ledled Cymru.

Heb os, bydd problemau ymarferol yn codi o ran sicrhau bod hyfforddiant gorfodol yn cael ei gwblhau. Nid wyf yn sicr y bydd y weithdrefn hysbysu yn adran 170 yn effeithiol oherwydd, fel y nodir yn y ddogfen ymgynghori, gall niweidio’r berthynas rhwng y clerc a’r cyngor gan fod y clerc yn gweithio i’r cyngor. Fodd bynnag, mae’n synhwyrol ei gwneud yn ofynnol i glercod gadw cofnod o’r anghenion hyfforddiant a’r rheini sydd wedi cael hyfforddiant a byddai hynny, er enghraifft, yn hwyluso adolygiad archwilio ynghylch hyfforddiant ar draws y cynghorau cymuned pe bai hynny’n briodol o ystyried yr adnoddau a’r blaenoriaethau.

 

 

 

Cwestiwn 6.5: A oes gennych unrhyw sylwadau am ein cynnig i ymestyn tymor Cynghorwyr Cymuned sy'n cael eu hethol yn 2017 i chwe blynedd?

 

Mae’n ymddangos y byddai’n synhwyrol o safbwynt gweinyddol i’r tymhorau hyn gyd-daro â’r gwaith o ad-drefnu llywodraeth leol a dyddiadau’r awdurdodau newydd. Fodd bynnag, sylwer bod llawer o aelodau cynghorau cymuned yn cael eu cyfethol yn hytrach na’u hethol oherwydd diffyg diddordeb.

 

 

 

Cwestiwn 6.6: A oes gennych unrhyw sylwadau am ein cynnig y dylai fod yn ofynnol i Gynghorau Cymuned ystyried a chynllunio ar gyfer anghenion hyfforddi eu haelodau a'u gweithwyr eu hunain?

 

Fel y soniwyd uchod, mae’n bwysig bod cynghorau cymuned yn ysgwyddo perchnogaeth o’u hanghenion hyfforddiant gan fod hyn yn debygol o’u cymell i ymgymryd â hyfforddiant. Fodd bynnag, nid wyf yn sicr y byddai llawer o’r cynghorau’n gallu pennu eu hanghenion a’u bylchau hyfforddiant ar hyn o bryd.

 

 

 

Cwestiwn 6.7: A oes gennych unrhyw sylwadau sy'n ymwneud â gosod amcanion ar gyfer clerc Cyngor Cymuned?

 

Mae llawer o’r cynghorau’n gadael i’w clercod ymgymryd â’u gwaith heb fawr ddim mewnbwn gan y cyngor. Mewn rhai achosion, y clercod sy’n rhedeg y sioe i gyd. Felly, mae pennu a monitro amcanion a pherfformiad yn bwysig. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae’r clercod yn cydweithio’n agos â’r cadeirydd neu grŵp bach o aelodau gan gau eraill allan (gweler yr adroddiadau er budd y cyhoedd am gynghorau Mawr a Chlydach). Felly, rwy’n credu y dylai’r cyngor cyfan fod yn gyfrifol am bennu a monitro amcanion.

 

 

 

Cwestiwn 6.8: A oes gennych unrhyw sylwadau am ein cynnig i ddiddymu'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â phleidleisiau cymunedol ac yn hytrach ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol weithredu system e-ddeisebau?

 

 

 

 

 

 

 

 

RHAN 7

 

Cwestiwn 7.1: A oes gennych sylwadau am unrhyw un o'r darpariaethau yn Rhan 7 o'r Bil Drafft?

 

Yn gyffredinol, mae’n ymddangos bod darpariaethau Rhan 7 yn rhesymol.

 

 

 

 

 

Cwestiwn 7.2: A oes gennych unrhyw sylwadau am a fyddai'n parhau'n ddymunol i sefydlu Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus statudol os byddai'n fwy cyfyngedig na Chomisiwn anstatudol o ran y materion y gallai roi canllawiau arnynt?

 

 

 

 

 

 

 

 

RHAN 8

 

Cwestiwn 8.1: A oes gennych sylwadau am unrhyw un o'r darpariaethau yn Rhan 8 o'r Bil Drafft neu am unrhyw un o'r Atodlenni?

 

Os yw’r Bil a gyflwynir yn cynnwys darpariaethau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar gyfer asesiadau cyfun a phennu’r amserlen ar gyfer cyflawni swyddogaethau cyrff adolygu a rhannu gwybodaeth o adolygiadau (adrannau 127 ac 143 o’r drafft presennol nad ydynt yn briodol fel y nodwyd yn y llythyr sy’n cyd-fynd â’r ymateb), dylid cyfeirio atynt yn adran 182(3) er mwyn i reoliadau o’r fath fod yn destun penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol o leiaf.

 

 

 

 

CWESTIYNAU YCHWANEGOL

 

Cwestiwn 9.1: A ydych chi'n ymwybodol o unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth y bydd angen eu gwneud?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 9.2: Rhowch adborth a fydd yn ddefnyddiol yn eich barn chi mewn perthynas â'r dogfennau ategol a gyhoeddir ochr yn ochr â'r Bil Drafft h.y. Memorandwm Esboniadol Drafft (gan gynnwys yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol) ac Asesiadau Effaith penodol.

Ar y cyfan, ac o’u cymryd gyda’i gilydd, nid yw’n ymddangos bod yr amcangyfrifon o’r costau a’r arbedion yn afresymol, er na ellir bod yn sicr oherwydd nad yw sail llawer o’r ffigurau’n eglur (gweler, er enghraifft, yr amcangyfrifon o’r arbedion o gyfuno gofod swyddfa ar dudalen 63 o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, Rhan 1). Er bod y costau a’r arbedion cyffredinol yn ymddangos braidd yn optimistaidd i mi, nid yw’n ymddangos bod cymaint o optimistiaeth fel ei bod yn tanseilio’r darlun cyflawn, sef y dylai’r costau “dalu yn ôl” ymhen tua phedair blynedd, o gymryd amcangyfrifon uchaf y costau ac amcangyfrifon isaf yr arbedion.

Serch hynny, mae rhai o’r amcangyfrifon unigol yn ymddangos braidd yn optimistaidd, fel y cyfanswm isaf o £3.5 miliwn ar gyfer cysoni cyflogau (tabl 15 ar dudalen 70 o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, Rhan 1). Mae’n ymddangos bod yr amcangyfrif hwn yn seiliedig ar symud staff yr awdurdodau newydd i gyfartaleddau wedi’u pwysoli sy’n seiliedig ar gyflogau’r awdurdodau presennol.

Nid yw costau’r pwyllgorau pontio wedi’u cynnwys yn asesiad y Bil drafft a gall fod rhywfaint o gyfiawnhad dros hynny gan eu bod wedi’u trafod yn yr asesiad ar gyfer Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (rhyw £2 filiwn 2016-20). Fodd bynnag, i gael darlun cyflawn o gostau’r ad-drefnu, mae angen cadw llygad ar y gost hon, er nad yw’n debygol o wneud gwahaniaeth sylweddol i batrwm cyffredinol y costau a’r arbedion.

Nid yw ffurf yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn hwylus i’r darllenydd. Ni cheir crynodeb amlwg wedi’i labelu’n eglur o gost gros y Bil. Rhaid troi i dudalen 72 i weld “yr opsiwn a ffefrir” ac yna troi’n ôl i dudalennau 69 a 70 i gael crynodebau o’r arbedion a’r costau amcangyfrifedig. Nid yw’n ymddangos bod yr Asesiad wedi’i deilwra mewn ffordd sy’n ateb gofynion Rheolau Sefydlog y Cynulliad. 

O ystyried y tabl sy’n crynhoi’r costau ar dudalen 70, un pwynt amlwg yw y bydd 2019-20 yn flwyddyn dyngedfennol i lywodraeth leol o ran gofynion ariannu. Yn y flwyddyn honno, bydd angen i’r awdurdodau (a’u cronfeydd pensiynau) gael hyd i ryw £60 miliwn i £100 miliwn i ariannu diswyddiadau, pecynnau ymddeoliad cynnar a chostau eraill. Nid yw’r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y gofyniad hwn yn amlwg o ddarllen y deunydd ymgynghori.

Nid oes modd rhoi barn bendant ar y costau a ddangosir yn Rhan 2 o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a hynny oherwydd nad yw’n amlwg yn union beth sydd wrth wraidd y ffigurau hyn. Serch hynny, mae’n ymddangos bod arwyddion nad yw’r costau’n gyflawn. Er enghraifft, mae tudalennau 86 i 88 o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, Rhan 2, yn trafod hunanasesiadau ac asesiadau gan gymheiriaid, ond dim ond costau’r asesiadau gan gymheiriaid sy’n cael eu pennu (£45,000 i £50,000 y flwyddyn, sy’n ymddangos yn isel, hyd yn oed ar sail un asesiad ym mhob cylch etholiadol). Felly, mae’n ymddangos bod cost yr hunanasesiadau wedi’i hepgor.

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cyfeirio at amryw o opsiynau ar gyfer Asesiadau Cyfun gyda chostau cysylltiedig Llywodraeth Cymru. Mae’n ymddangos mai’r gwahaniaeth rhwng y ddau brif opsiwn yw amlder yr asesiadau (bob dwy flynedd neu bob blwyddyn), ac a ddylid paratoi Adroddiad ar Gyflwr Llywodraeth Leol. Fodd bynnag, nid yw’n glir pam fod cymaint o wahaniaeth yn y gost flynyddol (tua £181,000 a £55,000).

 

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol hefyd yn cyfeirio at gostau Llywodraeth Cymru (Arolygu Cymru). Grŵp partneriaeth anffurfiol yw Arolygu Cymru ac nid corff a gyfansoddwyd yn ffurfiol. Mae’n ymddangos bod y costau a briodolir i Arolygu Cymru’n gyfystyr â chynnig i ddarparu cymorth ysgrifenyddiaeth, ond dim ond costau o’r fath. Mae’n ymddangos bod costau gweithgareddau aelodau Arolygu Cymru wedi’u hepgor.

 

 

 

 

Cwestiwn 9.3: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech godi unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym ni wedi mynd i’r afael â nhw yn benodol, defnyddiwch y lle isod i'w nodi.

 

 

Mae rhai materion hefyd yn cael eu codi ar dudalen 13 o’r ddogfen ymgynghori (ond nid yn y Bil drafft) y byddwn yn croesawu cyfle i’w trafod ar y cyfle cyntaf:

a)         cynigion (gan gynnwys ar gyfer deddfwriaeth bellach) ynghylch dosbarthu, codi, rheoli a chyfrifyddu cyllid awdurdodau lleol;

b)         y bydd y Bil i’w gyflwyno yn cynnwys darpariaethau diwygiedig o ran cyfrifon ac archwilio;

c)         rheoliadau o ran ariannu, cyfrifon ac archwilio awdurdodau cysgodol – bydd yn angenrheidiol craffu’n ddigonol ar wariant yr awdurdodau cysgodol.

 

 

 

 

 

Mae ymatebion i ymgynghoriadau weithiau yn cael eu cyhoeddi – ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Ticiwch y blwch yma pe bai’n well gennych gadw eich ymateb yn gyfrinachol: